Mae nifer o gwmnïau ffermio, am reswm da, wedi'u gwreiddio mewn traddodiad a phan ddaw hi i brynu gwrtaith mae ffermwr yn parhau i brynu'r hyn y maent wedi bod yn ei brynu erioed. Ond os yw peidio gwasgaru sylffwr ar borfa yn costio dros £100/hectar i chi, a ddylai'r arfer hwn barhau?
Mae graddau o wrtaith sy'n cynnwys sylffwr yn cael eu diystyru'n rhy aml gan eu bod ychydig yn ddrytach o gymharu â'r un radd heb sylffwr. Fodd bynnag, o ganlyniad i dystiolaeth caiff sylffwr erbyn hyn ei argymell gan bob corff cynghori ffermydd annibynnol yn y DU, yn cynnwys yr AHDB yn Lloegr, IBERS yng Nghymru, yr SRUC yn yr Alban ac AFBI yng Ngogledd Iwerddon.
Rydym angen defnyddio sylffwr nawr oherwydd yn y gorffennol byddai symiau digonol ohono i'w gael yn ein glaw. Nawr, yn flynyddol mae'r glaw yn darparu llai na 5kg SO3/hectar.
Yn syml, mae sylffwr yn helpu nitrogen i weithio'n well, a phan fo nitrogen yn gweithio'n well mae'n gwella cyfraddau tyfiant gwair a hefyd yn rhoi cyfansoddiad gwell i'r gwair. Er enghraifft, os ydym yn tyfu 1,000kg yn rhagor o ddeunydd sych fesul hectar dim ond drwy ddefnyddio gwrtaith sydd â sylffwr ynddo, mae hyn wedi gwella effeithlonrwydd defnydd nitrogen. Mae 20kg yn fwy o nitrogen yn cael ei dynnu yn y 1,000kg yma o ddeunydd sych sy'n golygu bod llai o nitrad yn y pridd sydd ar gael i drwytholchi a allai o bosibl gyrraedd ein hafonydd. Mae hyn yn golygu bod y ffermwr a'r amgylchedd ar eu hennill.
Gwerthfawrogi effeithiolrwydd cost defnyddio sylffwr y tymor hwn
Llynedd (2017) comisiynodd Yara y Sefydliad Bwyd-Amaeth a Biowyddorau (AFBI) yng Ngogledd Iwerddon i edrych ar rôl sylffwr ar laswelltir. Cynhaliodd AFBI y treialon maes hyn ar ddau safle gwahanol yng Ngogledd Iwerddon.
Roedd y pridd yn Hillsborough yn cael ei ystyried yn briddglai a'r pridd yn Loughgall yn briddglai tywodlyd.
Cafwyd y cynnyrch deunydd sych (DM) dros 6 toriad. Defnyddiwyd cyfanswm cyfradd nitrogen o 204kg/hectar ar gyfer pob triniaeth, gyda'r YaraBela Nutri Booster yn darparu cyfanswm o 41kg SO3/hectar o sylffwr.
Yn safle treialu Hillsborough rhoddodd y driniaeth a oedd yn cynnwys sylffwr 11.3 tunnell o gynnyrch sych o'i gymharu â 10.9 tunnell o gynnyrch sych fesul hectar heb sylffwr
Yn safle treialu Loughall rhoddodd y driniaeth a oedd yn cynnwys sylffwr 1.1 tunnell ychwanegol o gynnyrch sych fesul hectar
Cost tyfu'r 750kg ychwanegol hwn o gynnyrch sych oedd £15 yr hectar, yn seiliedig ar werth YaraBela CAN a YaraBela Nutri Booster.
Wrth gymharu gwerth y cynnyrch sych ychwanegol hwn i borthiant gwenith yn costio £138/tunnell a Hi-Pro Soya yn costio £305/tunnell, gyda defnydd pori o 85% yna mae'r 750kg hwn o DM yn werth £113.