Mae gwrtaith wastad wedi bod yn fuddsoddiad da i ffermwyr da byw, boed eich bod yn tyfu porfa ar gyfer pori neu am leihau costau porthiant drwy well rheolaeth ar silwair. Bydd rhoi'r lefel optimwm o nitrogen ar yr adeg gywir yn sicrhau cnwd iach a phorfa o ansawdd da.
Mae nitrogen yn dal i roi'r enillion gorau ar fuddsoddiad
Mae nitrogen yn ysgogi cnwd porfa. Dyma'r allwedd i sicrhau cynnyrch uchel o ddeunydd sych ac yn aml fe'i defnyddir yn strategol er mwyn cynyddu cynhyrchiant yn ôl y galw. Y gallu hwn gan wrtaith nitrogen i ysgogi cnwd porfa sy'n rhoi'r enillion hyn ar fuddsoddiad.
Beth am edrych ar ychydig ffigurau:
Silwair toriad cyntaf gyda 120kg N/hectar, gallwch yn rhesymol ddisgwyl sicrhau 5.5 t DM/hectar, gyda chost nitrogen o £102 yr hectar (N yn 85c/kg). Bydd hyn yn rhoi 20 tunnell FW/hectar o silwair, wedi'i brisio'n £25 tunnell/FW gan roi £500 yr hectar i chi. Mae hyn yn cyfateb i enillion gwerth tua 5 i 1 ar fuddsoddiad!
Silwair ail doriad gyda 90kg N/hectar, gallwch ddisgwyl cynhyrchu 2.5 t DM/hectar, gyda chost nitrogen o £76 fesul hectar (N yn 85c/kg). Bydd hyn yn cynhyrchu 9 t FW/hectar o silwair. Wedi'i brisio'n £25 tunnell/FW mae hyn yn £225 yr hectar. Mae hyn yn cyfateb i enillion gwerth tua 3 i 1 ar fuddsoddiad!
Peidiwch ag anghofio am sylffwr
Er mwyn i laswellt ddefnyddio'r nitrogen yn effeithlon mae'n bwysig nad oes unrhyw faetholyn arall yn brin, yn arbennig sylffwr. Yn ddiweddar rydym wedi bod yn gweld ymatebion sylweddol i sylffwr, yn arbennig ar borfeydd silwair dwys. Nid yw hynny'n peri syndod gan fod dyddodiad atmosfferig wedi lleihau'n sylweddol ers y 1980au.
Mae defnydd sylffwr yn cael effaith gadarnhaol ar effeithlonrwydd defnydd nitrogen. Mae hyn yn golygu bod mwy o'r nitrogen a roddir yn cael ei droi'n brotein porfa sy'n cael yr effaith ddwbl o wella deunydd sych a lleihau colledion nitrogen i'r amgylchedd.
Yr unig ffordd sicr i osgoi ymateb nitrogen a gyfyngir gan sylffwr yw rhoi'r ddau faetholyn ar yr un pryd. Mae gwrteithiau nitrogen a sylffwr Yara i gyd yn cynnwys nitrad nitrogen ynghyd â'r sylffwr hollbwysig.
Yn nodweddiadol fe fydd ymateb cnwd i sylffwr yn tua 10% er y gall hyn fod yn nes i 20% ar briddoedd ysgafnach sydd â deunydd organig isel. Mae defnyddio'r ffigurau uchod a chost sylffwr o 35c y kg SO3 yn rhoi enillion ar fuddsoddiad mewn sylffwr o 3.5 i 1 ar gyfer y toriad cyntaf a 2 i 1 ar gyfer ail doriad. Felly mae enillion iach ar sylffwr hyd yn oed heb roi ystyriaeth i welliannau ansawdd megis canran uwch protein neu gynnydd mewn cynnwys egni.
Cofiwch gywiro pH y pridd
Un arall o'r camgymeriadau mwyaf cyffredin sy'n atal yr enillion trawiadol hyn, yw'r pH pridd anghywir. Ar borfa, y targed ar gyfer pH pridd yw 6.0. Mae sicrhau'r pH pridd cywir yn caniatáu i fioleg y pridd a phryfed genwair ffynnu a thorri lawr weddillion planhigion, gwrtaith anifeiliaid a rhyddhau'r maetholion sydd eu hangen ar gyfer tyfiant iach planhigion.
Bydd cywiro pH pridd hefyd yn cynyddu argaeledd yr holl faetholion, gan sicrhau eich bod yn cael gwell enillion ar eich buddsoddiad mewn nitrogen.
The following nitrogen plus sulphur fertilisers are recommended for grassland.