Mae tair elfen ar gyfer ansawdd glaswelltir a thir pori: ansawdd porfa, ansawdd maethol ac iechyd anifeiliaid.
Dylanwadir ar ansawdd porfa yn fwy gan arferion agronomig eraill yn ogystal â rheoli pori, fodd bynnag dylai cynnal lefel dda o ffrwythlondeb pridd a chynnwys rhaglen faeth cnydau gytbwys fod yn rhan bwysig o reoli glaswelltir.
Ceir tystiolaeth anuniongyrchol hefyd bod nifer o faethynnau sy'n cynnwys potasiwm, molybdenwm, boron, sinc and manganîs yn lleihau haint clefydau mewn grawnfwydydd, felly trwy estyniad mae hyn hefyd yn debygol o fod yr un fath ar gyfer rhywogaethau gwair porthiant.
Mesurir ansawdd maethol gwair yn nodweddiadol gan dreuliadwyedd, protein a chynnwys deunydd sych, y gellir dylanwadu ar bob un ohonynt gan faeth cnydau.
Mae treuliadwyedd yn dibynnu ar gam y tyfiant a maeth – mae gan borfa ifanc, ddeiliog lefelau D ac ME uwch na'r rheini sydd wedi dechrau tywysennu neu sy'n cynnwys llawer o ddeunydd marw. Bydd glaswelltiroedd sydd â strategaeth maeth cytbwys yn fwy blasus na'r rheini sydd wedi'u tanwrteithio.
Mae lefelau protein yn dibynnu ar gam tyfiant gwair ac effeithir arnynt gan faeth cnwd, yn arbennig gwrteithiad nitrogen. Mae lefelau yn cynyddu yn y gwanwyn cynnar. Mae ffurfiad protein yn dibynnu ar allu'r planhigyn i dynnu nitrogen o'r pridd - felly gellir dylanwadu arno gan wrteithio nitrogen ond hefyd gan lefelau potash a sylffwr a pH y pridd.
Cynnwys Deunydd Sych yw'r mwyaf amrywiol a'r un y gellir ei reoli leiaf. Cysylltir deunydd sych isel yn aml gyda thywydd gwlyb ac amodau tyfu gwael. Yn ogystal â chael effaith uniongyrchol ar gynnyrch, mae hyn hefyd yn dueddol o leihau'r ansawdd ac arwain at gymeriant dyddiol is. Hefyd, mewn silwair gall cynnwys deunydd sych uchel (>40 %) arwain at gymeriant is.
Dylai iechyd anifeiliaid a maethiad elfen hybrin hefyd gael eu hystyried fel elfen o ansawdd gwair. Mae gan anifeiliaid pori wahanol ofynion ar gyfer elfennau hybrin o gymharu â'r rheini sydd eu hangen ar gyfer tyfiant gwair. Felly mae'n bwysig sicrhau bod yr elfennau hyn yn bresennol yn y gwair mewn lefelau digonol i ddiwallu gofynion maethol yr anifeiliaid. Mae sodiwm and seleniwm yn hanfodol ar gyfer iechyd anifeiliaid ond nid oes eu hangen ar blanhigion ac mae'r canllawiau ar gyfer elfennau hybrin eraill megis magnesiwm, sinc a chopr yn uwch mewn anifeiliaid pori nac sy'n bresennol mewn gwair.
Gall cyfraddau uwch o nitrogen hefyd achosi problemau gydag eplesu silwair oherwydd bod gormodedd o nitrad yn cael effaith negyddol ar y broses eplesu a bydd yn cynhyrchu silwair sy'n llai blasus a bydd yr anifeiliaid yn llai awyddus i'w fwyta.
Caiff nitrad ei gymryd i mewn gan wair yn gyflymach nac y caiff ei ymgorffori i broteinau a hyd nes y bydd yn cael ei ddefnyddio caiff y gormodedd hwn, a adnabyddir fel mewnlifiad moethus, ei storio yn y dail. Bydd gormodedd o nitrad yn bresennol os na chaniateir digon o amser rhwng ei roi a'r torri a gall hefyd ddigwydd o dan amodau o dyfiant gwael e.e. lefelau golau isel, tymheredd oer. Bydd problem hefyd os oes cyfnod sych ar ôl ei roi lle, na all nitrad gael ei sugno gan y gwreiddiau, ac yna cyfnod o dywydd gwlyb sy'n arwain at fewnlifiad moethus. Ni all y planhigyn ei droi'n brotein yn ddigon cyflym felly mae'n crynhoi yn y planhigyn.
Gall cyfraddau uchel o nitrogen achosi lleihad mewn siwgrau cnwd gan eu bod yn cael eu defnyddio i ddarparu egni ar gyfer cyfradd gynyddol tyfiant y planhigyn ac ar gyfer cynhyrchu proteinau planhigion a gallai'r gyfradd tyfiant gynyddol arwain at gynnwys deunydd sych is er, yn ymarferol, nid yw hwn yn aml yn sylweddol.
Gellir osgoi gormodedd o nitrad drwy ddilyn y Rheol Glaswelltir o roi nitrogen ar gyfradd dim uwch na 2.5kg N/hectar/dydd.
Mae ffosfforws yn chwarae rôl mewn nifer o brosesau metabolig planhigion a gweithgareddau ensymau, felly er bod y galw am ffosfforws yn isel o gymharu â'r galw am nitrogen mae'n hanfodol ei fod ar gael. Pan fo diffyg neu argaeledd isel ffosfforws bydd ansawdd maethol a threuliadwyedd y porthiant yn lleihau.
Mae ffosfforws yn ansymudol iawn mewn pridd ac mae ei argaeledd wedi'i gyfyngu gan pH a phellter o wreiddiau'r planhigyn.
Potasiwm yw'r maethyn sy'n cael ei gymryd i mewn yn y symiau mwyaf gan borfa glastiroedd.
Mae gan botasiwm rôl eang mewn mewnlifiad maethynnau sy'n effeithio ar blanhigion, ffotosynthesis, cyfradd tyfiant a gwerth porthiant.
Os nad oes symiau digonol o botasiwm ar gael cyfyngir ar gyfradd y tyfiant a'r cynnyrch. Fodd bynnag gallai fod perygl i iechyd anifeiliaid os rhoddir gormod o botasiwm gyda risg gynyddol o hypomagneremia.
Mae sylffwr yn hanfodol ar gyfer ffurfiad asidau amino proteinau ac ensymau ac felly'n hollbwysig ar gyfer tyfiant a datblygiad.
Mae angen hefyd ystyried magnesiwm. Mae magnesiwm yn faethyn hanfodol, a phan fydd diffyg magnesiwm fe fydd lleihad sylweddol yn ansawdd y glaswelltir a gallai hyn gael canlyniadau difrifol ar iechyd anifeiliaid.
Mae sodiwm and seleniwm yn hanfodol ar gyfer iechyd anifeiliaid ond nid oes eu hangen ar blanhigion ac mae'r canllawiau ar gyfer elfennau hybrin eraill megis magnesiwm, sinc a chopr yn uwch mewn anifeiliaid pori nac sy'n bresennol mewn gwair.
Mae sodiwm yn bwysig ar gyfer maethiad anifeiliaid ac yn aml ni fydd digon ohono mewn gwair i ddiwallu anghenion anifeiliaid pori.
Gallai symptomau diffyg sodiwm ymhlith gwartheg gynnwys archwaeth bwyd isel, lleihad mewn ffrwythlondeb a chynhyrchu llai o laeth. Mae sodiwm hefyd yn cynyddu blasusrwydd porfa, ac felly'n cynyddu cymeriant deunydd sych.
Mae gwrteithiau sy'n cynnwys sodiwm yn cynyddu lefelau sodiwm mewn gwair a dangoswyd hefyd eu bod yn cynyddu cynhyrchiant.
Mae seleniwm yn faethyn hanfodol ar gyfer anifeiliaid, sy'n angenrheidiol ar gyfer ffurfio glwtathion perocsidas, gwrthocsidydd, ond ni chaiff ei gydnabod yn eang fel maethyn planhigion.
Gall tyfwyr hefyd ddylanwadu ar ansawdd glaswelltir gyda'r arferion agronomig canlynol: