Mae astudiaethau blaenorol wedi dangos bod tua 90% o samplau naill ai'n isel iawn neu'n isel o ran statws eu seleniwm. Yn fwyaf diweddar yn 2014 yng nghystadleuaeth UK Grass Prix roedd yr holl samplau yn is na'r canllaw 0.1 ppm, gyda'r cyfartaledd dan 0.04 ppm. Byddai'n annhebygol bod gwartheg a fyddai'n bwydo ar hwn yn gallu cadw'r cynnwys seleniwm eu gwaed yn uwch na'r canllaw nodweddiadol o 0.1 mg/g gwaed. Felly mae angen atchwanegiad yn y diet i gynnal iechyd yr anifeiliaid.
Mae planhigion yn cymryd seleniwm ar ffurf ionau selenad (SeO42-) neu selenid (SeO32-). Selenad yw'r ffurf a gymerir i mewn hawsaf ac felly mae ei gynnwys mewn gwrtaith yn ei wneud yn ddull delfrydol ar gyfer cyfnerthu gwair er mwyn cyrraedd y gofynion dyddiol o ran cymeriant. Ar ôl ei gymryd i mewn caiff ei ymgorffori i'r asidau amino a phroteinau. Yn y ffurfiau hyn mae'r seleniwm ar gael i'r da byw. Mae hon yn ffordd effeithlon iawn o drosglwyddo seleniwm i waed yr anifail.
Cymharodd treial fferm a gynhaliwyd yn Kildare, Iwerddon, lefelau seleniwm mewn gwair oedd wedi'i drin â gwrtaith NPK safonol (YaraMila Supergrass) gyda gwrtaith NPK a oedd yn cynnwys seleniwm (YaraMila Stock Booster). Cynyddodd lefelau'r seleniwm yn y triniaethau YaraMila Stock Booster yn y silwair toriad cyntaf gan 275% a'r ail doriad gan 450%.
Cymharodd treial arddangos a gynhaliwyd yn nigwyddiad Grass Tec ger Elgin yn yr Alban, lefelau seleniwm mewn gwair oedd wedi'i drin â gwrtaith NPK safonol (YaraMila Sulphur Cut) gyda gwrtaith NPK a oedd yn cynnwys seleniwm (YaraMila Stock Booster) neu wrtaith nitrogen syth yn cynnwys seleniwm (YaraBela Nutri Booster). Cynyddodd lefelau seleniwm yn y triniaethau YaraMila Stock Booster a YaraBela Nutri Booster yn sylweddol, ar gyfartaledd gan dros 500% a 900% yn yr un drefn.
Cymharodd treial fferm a gynhaliwyd ar Ystâd Glenbervie yn yr Alban lefelau seleniwm mewn gwair oedd wedi'i drin â gwrtaith NPK safonol (YaraMila Supergrass) gyda gwrtaith NPK a oedd yn cynnwys seleniwm (YaraMila Stock Booster). Cynyddodd y lefelau seleniwm yn y triniaethau YaraMila Stock Booster gan dros 900%.
Fe wnaeth yr astudiaeth ganlynol o Seland Newydd edrych ar y lefelau seleniwm mewn gwair yn dilyn triniaeth a chadarnhaodd yn dilyn ei ddefnyddio unwaith i'r lefelau seleniwm barhau'n uwch na'r lefelau canllaw am tua 75 diwrnod wedi ei ddefnyddio.
Mae gwrteithiau sy'n cynnwys macrofaethynnau ar gyfer tyfiant planhigion a microfaethynnau ar gyfer gwell iechyd anifeiliaid ar gael a dylid eu hystyried wrth ddatblygu strategaethau i fynd i'r afael â'r materion sylfaenol hyn. Bydd hyn yn sicrhau bod y gwair yn parhau i fod y porthiant gwerth gorau sydd ar gael i'r da byw.